Mae'n bleser gan Gymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru (CPYC) gyhoeddi partneriaeth pedair blynedd gyda'r asiantaeth chwaraeon Future Elite Sport (FES), sy'n canolbwyntio ar greu cyfleoedd mewn pêl-droed i fyfyrwyr ar ôl y chweched dosbarth, wrth weithio ar yr un pryd tuag at radd prifysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol. P'un a ydych chi'n dewis dilyn gyrfa mewn pêl-droed neu mewn maes arbenigedd gwahanol, bydd ysgoloriaeth pêl-droed yn helpu i ddarparu llwyfan ar gyfer llwyddiant a dilyniant gyrfa yn y dyfodol.
Mi ddywedodd Martin Evans, Cadeirydd CPYC "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau'r bartneriaeth hon gyda Dafydd a Future Elite Sports. Mae Tîm Rhyngwladol dan 18 Ysgolion Cymru yn rhoi ail gyfle i'n chwaraewyr gynrychioli Tîm Cenedlaethol Cymru. Mae'n bwysig bod y chwaraewyr yn cydnabod. a gwerthuso beth yw eu camau nesaf yn eu gyrfaoedd pêl-droed ac mae'r hyn y mae Future Elite Sports yn ei ddarparu yn gyfle i'r chwaraewyr hyn barhau â'u gyrfaoedd ar safon uchel o bêl-droed yn UDA ac Awstralia. Hoffwn drosglwyddo fy niolch i Dafydd a Future Elite Sports ar gyfer y bartneriaeth hon ac edrychwn ymlaen at weld ein chwaraewyr yn symud ymlaen a'r llwybr hwn yn y dyfodol ”.
Mae Future Elite Sports wedi helpu nifer o chwaraewyr i barhau i chwarae pêl-droed dramor ac ym Mhrydain ar ôl iddynt orffen yn yr ysgol. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth lefel uchel sy'n cefnogi dysgwyr drwyddi draw ac yn gwarantu lleoliad llwyddiannus mewn pêl-droed. Trwy ein rhwydwaith helaeth o hyfforddwyr, rydym yn gallu cysylltu athletwyr talentog â rhaglenni pêl-droed sy'n adlewyrchu eu huchelgeisiau academaidd ac athletau.
Mae Dafydd Jones, sy’n Gyfarwyddwr y cwmni ac yn gyn golwr rhyngwladol tîm 'Futsal' Cymru yn falch iawn o fod wedi sicrhau’r bartneriaeth hon gyda chymdeithas sy’n llawn hanes “Credwn y bydd y bartneriaeth nid yn unig o fudd i fyfyrwyr sydd am barhau mewn pêl-droed, wrth gael addysg brifysgol ond hefyd ychwanegu gwerth i ysgolion sy'n aelodau o CPYC. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu perthynas waith agos a llwyddiannus gyda CPYC a'i ysgolion sy'n aelodau dros y pedair blynedd nesaf. "
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cwmni wedi gweithio'n llwyddiannus gyda charfan dan 19 Colegau Cymru a gyda nifer o Golegau Addysg Bellach yng Nghymru ac yn gobeithio efelychu'r llwyddiant hwn o fewn strwythur ysgolion Cymru. “Rydyn ni wedi cael perthynas wych gyda’r colegau AB ac rydyn ni’n hynod gyffrous i fod yn bartner gyda CPYC a meithrin perthnasoedd ag unigolion ac ysgolion Cymru. Roedd y cyfle i allu gweithio gyda’r chwaraewyr a’r ysgolion a dod yn gysylltiedig â’r gymdeithas hanesyddol hon yn gyfle na allem ei wrthod” ychwanegodd Jones.I ddarganfod mwy ewch i www.futureelitesports.com neu e-bostiwch Dafydd Jones ar dafydd@futureelitesports.com
Bydd pob chwaraewr (Gwryw a benyw) sy'n chwarae yng nghystadlaethau CPYC yn gallu elwa o ostyngiad arbennig ar unrhyw becynnau a gymerir trwy Future Elite Sports.
Am fwy o fanylion pellach ewch i www.futureelitesports.com neu e-bostiwch Dafydd Jones ar dafydd@futureelitesports.com